Enghraifft o: | teulu o uchelwyr |
---|---|
Label brodorol | House of York |
Rhan o | Llinach y Plantagenet |
Yn cynnwys | Tuduriaid |
Sylfaenydd | Edmund o Langley, dug 1af York |
Enw brodorol | House of York |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cangen o deulu brenhinol y Plantagenets oedd Teulu'r York neu Iorciaid, a gychwynodd gydag Edmund o Langley, dug Efrog (marw 1402) sef pedwerydd mab (a fu byw) i Edward III, brenin Lloegr. Daeth tri o aelodau'r teulu'n frenhinoedd ar Loegr. Ar y linell waed hon yr hawliwyd coron Lloegr gan y teulu, ac ar eu perthynas i Lionel, Duke of Clarence, ail fab (a fu byw) Edward III.[1][2] Daeth y llinach Iorcaidd i ben pan laddwyd Rhisiart III, brenin Lloegr ym Mrwydr Bosworth yn 1485. Daeth y linell waed i ben pan y bu farw Edward Plantagenet, 17fed Iarll Warwick yn 1499.