Irene Papas | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Ειρήνη Λελέκου ![]() 3 Medi 1929 ![]() Chiliomodi ![]() |
Bu farw | 14 Medi 2022 ![]() Kifisia ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | actor, canwr, cyfarwyddwr ffilm ![]() |
Priod | Alkis Pappas, José Kohn ![]() |
Partner | Marlon Brando ![]() |
Perthnasau | Manousos Manousakis, Aias Manthopoulos, Lida-Maria Manthopoulou ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am yr Actores Orau, Commandeur des Arts et des Lettres, Cadlywydd Urdd y Ffenics, Knight Commander of the Order of Alfonso X, honorary doctorate at the University of Rome Tor Vergata ![]() |
Roedd Irene Papas neu Pappas (Groeg (iaith): Ειρήνη Παππά, IPA: [iˈrini paˈpa] ; 3 Medi 1926 – 14 Medi 2022)[1] [2] [3][4] [5], yn actores a chantores o Wlad Groeg.
Cafodd ei geni yn Chiliomodi, fel Irene Lelekou (Groeg (iaith): Ειρήνη Λελέκου). Serennodd mewn dros 70 o ffilmiau mewn gyrfa hir. Enillodd gydnabyddiaeth ryngwladol trwy ffilmiau arobryn mor boblogaidd â The Guns of Navarone (1961) a Zorba the Greek (1964).
Enillodd Papas wobrau'r Actores Orau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Berlin ar gyfer Antigone (1961) Roedd hi'n brif gymeriad pwerus mewn ffilmiau eraill, gan gynnwys Electra (1962), The Trojan Women (1971; fel Elen o Troy) ac Iphigenia (1977). Enillodd y Wobr Golden Arrow yn 1993 yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Hamptons.