Isaac Clarke | |
---|---|
Ganwyd | 1824 ![]() Yr Wyddgrug ![]() |
Bu farw | 5 Ebrill 1875 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | cyhoeddwr, argraffydd, perchennog papur newydd ![]() |
Roedd Isaac Clarke (1824 – 5 Ebrill 1875) yn berchennog papur newydd, argraffydd a chyhoeddwr yn Rhuthun. Ef gyhoeddodd anthem genedlaethol Cymru, Hen Wlad fy Nhadau, am y tro cyntaf.
Nid yw dyddiad geni Clarke yn hysbys, ond gwyddom iddo gael ei fedyddio yn Eglwys Plwyf yr Wyddgrug ar 24 Ebrill 1824. Ei rieni oedd Robert a Ruth Clarke o Goed-llai. Ffermwr oedd ei dad, ond dewisodd yntau ddilyn trywydd gwahanol gan fwrw prentisiaeth fel argraffydd gyda Hugh Jones yn yr Wyddgrug. Yn 1845, fe'i penodwyd yn oruchwyliwr i gwmni argraffu Nathan Maddocks yn Rhuthun. Yn 1850, sefydlodd ei argraffdy ei hun yn 6 Stryd y Ffynnon, bellach yn 'Siop Nain'.
Mae cofeb iddo yn Eglwys Sant Pedr, Rhuthun, ac arno nodir iddo farw ar 5 Ebrill 1875.