Ivor Wynne Jones | |
---|---|
Ganwyd | Mawrth 1927 Allerton |
Bu farw | 1 Ebrill 2007 |
Man preswyl | Llandudno |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Roedd Ivor Wynne Jones (28 Mawrth 1927 – 1 Ebrill 2007) yn newyddiadurwr Cymreig ac awdur llyfrau ar hanes lleol a hanes Cymru. Treuliodd rhan helaeth ei oes yn Llandudno.
Ganwyd Ivor Wynne Jones yn Allerton, un o faesdrefi Lerpwl. Gwasanaethodd fel paratrwpwr yn yr Ail Ryfel Byd, ac yn nes ymlaen gweithiodd i'r Forces Broadcasting Service yn Jeriwsalem. Bu'n bresennol yn yr eisteddfodau a gynhelwyd yng Nghairo, yr Aifft, yn ystod y rhyfel. Ar ôl cyfnod byr fel darlledwr yn Cyprus, dychwelodd i Gymru yn 1948.
Bu Jones yn olygydd y Caernarvon and Denbigh Herald ar ôl y rhyfel, cyn ymuno â'r Daily Post; cyfranodd i'r papur hwnnw am 52 o flynyddoedd. Daeth yn brif ohebydd tramor y papur, gyda diddordeb arbenig yn y Dwyrain Canol. Am flynyddoedd roedd yn ffigwr adnabyddus a dadleuol yng ngogledd Cymru am ei golofn wythnosol, "Forthright and Fearless", a ymddangosai hyd at ddau fis cyn ei farwolaeth. Fel Tori rhonc, a'i amharodrwydd i siarad Cymraeg er ei fod yn rhugl yn yr iaith, cododd wrychyn sawl un trwy ei feirniadaeth o genedlaetholdeb Cymreig. "Dyn y sefydliad" oedd o ar sawl ystyr, ond condemniai'n hallt Rhyfel Irac ac ymlyniad llywodraeth Prydain wrth bolisïau'r Unol Daleithiau yn ogystal.
Bu'n un o sefydlwyr Opera Cenedlaethol Cymru yn 1957.
Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Lewis Carroll, a chyhoeddodd lyfr ar gysylltiadau awdur Alice's Adventures in Wonderland ag ardal Llandudno. Ymhlith ei lyfrau eraill ceir hanes lleol darluniedig Llandudno a Bae Colwyn a chyfrol ar hanes diwydiant llechi Cymru (bu'n un o gyfarwyddwyr Chwarel Llechwedd, Blaenau Ffestiniog). Ysgrifennodd sawl cyfrol ar Gymru a'r Ail Ryfel Byd yn ogystal.
Bu farw ar 1 Ebrill 2007 ar ôl bod yn wael am rai misoedd ym Mae Colwyn.