Enghraifft o: | mudiad gwleidyddol |
---|---|
Idioleg | cenedlaetholdeb |
Daeth i ben | 1849 |
Dechrau/Sefydlu | 1842 |
Gwladwriaeth | Ireland |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mudiad cenedlaetholgar chwyldroadol Gwyddelig a weithredodd tua chanol y 1840au oedd Iwerddon Ifanc, hefyd Iwerddon Ieuanc (Saesneg: Young Ireland a Gwyddeleg: Éire Óg). Wedi'i grwpio o amgylch The Nation wythnosol yn Nulyn, aeth i'r afael â chyfaddawdau a chlericaliaeth y mudiad cenedlaethol mwy, Repeal Association dan arweinad Daniel O'Connell, yr ymneilltuodd oddi wrtho yn 1847. Gydag anobaith, yn wyneb y Newyn Mawr, am unrhyw gwrs arall, yn 1848 ceisiodd Gwyddelod Ieuainc wrthryfela. Yn dilyn arestio ac alltudiaeth y rhan fwyaf o'u prif ffigurau, rhannodd y mudiad rhwng y rhai a gariodd yr ymrwymiad i "rym corfforol" ymlaen i'r Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol, a'r rhai a geisiodd adeiladu "Cynghrair Gogledd a De" (The League of North and South) yn cysylltu plaid seneddol Wyddelig annibynnol i gynnwrf tenantiaid dros ddiwygio tir.
Bu i beth o asbri a dyheuadau Iwerddon Ifanc ysbrydoli mudiad Cymru Fydd hanner can mlynedd yn hwyrach, er heb yr ochr dreisiol.