Iwstinian I | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Petrus Sabbatius ![]() 11 Mai 482 ![]() Taurision (Serbia) ![]() |
Bu farw | 14 Tachwedd 565 ![]() Caergystennin ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd ![]() |
Galwedigaeth | deddfwr, gwleidydd, ymerawdwr, llenor ![]() |
Swydd | seneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd ![]() |
Dydd gŵyl | 14 Tachwedd ![]() |
Tad | Unknown, Justin I ![]() |
Mam | Vigilantia ![]() |
Priod | Theodora ![]() |
Plant | Theodoros Tziros ![]() |
Llinach | llinach Iwstinian ![]() |
Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 527 a 565 oedd Iwstinian I, hefyd Iwstinian Fawr (Lladin: Flavius Petrus Sabbatius Justinianus, Groeg (iaith): Φλάβιος Πέτρος Σαββάτιος Ιουστινιανός 482/483 – 13 neu 14 Tachwedd 565).
Ganed Iwstinian yn Illyria; mae'n ymddangos mai Lladin oedd ei iaith gyntaf yn hytrach na Groeg. Aeth ei ewythr Justinus i Gaergystennin a phan daeth yn ddylanwadol yn y gard ymerodrol, galwodd Iwstinian yno ato a'i fabwysiadu. Daeth Justinus ym ymerawdwr, a chredir i Iwstinian fod â rhan bwysig yn rheoli'r ymerodraeth yn ystod ei deyrnasiad ef. Ar farwolaeth Justinus, daeth Iwstinian yn ymerawdwr ar 9 Awst 527.
Cafodd Iwstinian ddylwanwad mawr ar yr ymerodraeth. Dechreuodd ymgyrch i adennill y tiriogaethau a gollwyd gan yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, y renovatio imperii neu "adfer yr ymerodraeth". Dan gadfridogion fel Belisarius a Narses, enillwyd tiriogaethau eang yn ôl yn y gorllewin, er na allodd yr ymerodraeth ddal ei gafael arnynt yn y pen draw.
Bu Iwstinian hefyd yn gyfrifol am ail-ysgrifennu Cyfraith Rhufain, y Corpus Juris Civilis sy'n parhau i fod yn sylfaen y gyfraith sifil mewn llawer o wledydd. Bu adfywiad diwylliannol yn ystod ei deyrnasiad hefyd, gan gynnwys adeiladu eglwys enwog Hagia Sophia yng Nghaergystennin.
Rhoddwyd diwedd ar gynlluniau mwyaf uchelgeisiol Iwstinian gan Bla Iwstinian, yn ôl pob tebyg y Pla Du, a darawodd yr ymerodraeth yn y 540au cynnar gan achosi nifer fawr o farwolaethau. Cafodd Iwstinian ei hun y pla, ond roedd ef yn un o'r ychydig a lwyddodd i wella ohono. Ceir hanes y cyfnod yng ngwaith yr hanesydd Procopius.