J. K. Rowling

J.K. Rowling
Geni Joanne Rowling
(1965-07-31) 31 Gorffennaf 1965 (59 oed)
Yate, Swydd Gaerloyw, Lloegr
Galwedigaeth Nofelydd
Math o lên Ffuglen ffantasi
Gwaith nodedig Cyfres Harry Potter
Gwefan swyddogol

Awdur ffugchwedl Seisnig yw Joanne "J.K." Rowling, OBE (ganwyd 31 Gorffennaf 1965). Daeth yn enwog am ysgrifennu y gyfres o straeon Harry Potter, sydd wedi gwerthi dros 300 miliwn o gopiau dros y byd. Yn Chwefror 2004, amcangyfrifwyd gan y cylchgrawn Forbes bod ganddi waddol o £576 miliwn (dros UD$1 biliwn).

Cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg o Harry Potter and the Philosopher's Stone sef Harri Potter a Maen yr Athronydd yn 2003.

Cyn ei llwyddiant llenyddol, bu'n athrawes ac yn fam sengl yn crafu bywoliaeth.

Yn 2012 rhyddhaodd ei nofel gyntaf i oedolion, The Casual Vacancy. Derbynodd ymateb cymysg.[1]

  1.  Ymateb cymysg i nofel oedolion gyntaf JK Rowling. Golwg360 (27 Medi 2012). Adalwyd ar 19 Hydref 2012.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne