![]() Poster sinema'r ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Christopher McQuarrie |
Cynhyrchydd | Tom Cruise Don Granger Paula Wagner Gary Levinsohn |
Ysgrifennwr | Sgript gan: Christopher McQuarrie Seiliwyd ar: One Shot gan Lee Child |
Serennu | Tom Cruise Rosamund Pike Richard Jenkins Werner Herzog David Oyelowo Jai Courtney Jospeh Sikora Robert Duvall |
Cerddoriaeth | Joe Kraemer |
Sinematograffeg | Caleb Deschanel |
Golygydd | Kevn Stitt |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Skydance Media TC Productions |
Dyddiad rhyddhau | 21 Rhagfyr, 2012 (Yr Unol Daleithiau) Dosbarthwyr Paramount Pictures |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Mae Jack Reacher yn ffilm gyffrous acsiwn Americanaidd 2012.[1][2] Mae'n addasiad o'r nofel One Shot gan Lee Child a gyhoeddwyd yn 2005. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y ffilm gan Christopher McQuarrie, a serenna Tom Cruise fel Jack Reacher a Rosamund Pike fel y twrnai Helen Rodin. Mae'r actorion David Oyelowo, Richard Jenkins, Jai Courtney, Werner Herzog, a Robert Duvall hefyd yn ymddangos yn y ffilm. Dechreuodd gynhyrchiad y ffilm yn Hydref 2011, a daeth i ben yn Ionawr 2012. Ffilmiwyd y ffilm gyfan yn Pittsburgh, Pennsylvania. Derbyniodd adolygiadau positif, gan berfformio yn iawn mewn sinemâu yng Ngogledd America.
Rhyddhawyd y ffilm yng Ngogledd America ar 21 Rhagfyr, 2012 ac yn y Deyrnas Unedig ar 26 Rhagfyr, 2012. Cyfansoddwyd y sgôr cerddorol gan Joe Kraemer a fe'i berfformiwyd gan y Symffoni Stiwdio Hollywood. Recordiwyd y sgôr yn Llwyfan Sgorio Sony yn Culver City, Califfornia. Perfformiodd Cruise ei styntiau gyrru ei hun yn y ffilm. Bydd Cruise yn ailgydio yn y rôl mewn dilyniant i'r ffilm, Jack Reacher: Never Go Back, a seilir ar y nofel 2013 Never Go Back. Rhyddheir y ffilm ym mis Hydref 2016.