Jada Pinkett Smith | |
---|---|
Ganwyd | Jada Koren Pinkett 18 Medi 1971 Baltimore |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr-gyfansoddwr, canwr, cyfansoddwr, cynhyrchydd ffilm, cyfansoddwr caneuon, cyfarwyddwr ffilm, llenor, actor llais, cerddor, actor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr, sgriptiwr, television personality, person busnes, entrepreneur, cynhyrchydd teledu |
Adnabyddus am | Enter the Matrix, Madagascar, Gotham, Collateral, The Matrix Revolutions, Ali, Hawthorne, Bad Moms |
Arddull | cerddoriaeth roc, hip hop, rapio |
Taldra | 153 centimetr |
Priod | Will Smith |
Plant | Jaden Smith, Willow Smith |
Gwobr/au | Gwobr y Dyniaethau, David Angell, Gwobr Delwedd NAACP am yr Actores Eithriadol mewn Cyfres Ddrama, Gwobr Delwedd NAACP amWaith Llenyddol Arbennig, Gwobr Time 100 |
Gwefan | https://www.jadapinkettsmith.com/ |
Mae Jada Koren Pinkett Smith (ganwyd 18 Medi 1971) yn actores, dawnswraig, cantores, cyfansoddwraig, a menyw busnes o'r Unol Daleithiau. Dechreuodd ei gyrfa yn 1990, pan wnaeth ymddangosiad byr yn y rhaglen gomedi byrhoedlog True Colors. O 1991 hyd at 1993, serennodd fel Lena James yn y gyfres deledu A Different World, a gynhyrchwyd gan Bill Cosby. Ymddangosodd yn ei ffilm gyntaf, Menace II Society, yn 1993, ac yna ymddangosodd gyda Eddie Murphy yn The Nutty Professor (1996). Ers hynny, mae hi wedi ymddangos mewn dros 20 o ffilmiau nodwedd, gan gynnwys Set It Off (1996), Scream 2 (1997), Ali (2001), The Matrix Reloaded a The Matrix Revolutions (2003), Madagascar (2005), Madagascar: Escape 2 Africa (2008), a Madagascar 3: Europe's Most Wanted (2012), ac, yn fwy diweddar, Girls Trip (2017).