Jade Ewen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Ionawr 1988 ![]() Llundain ![]() |
Label recordio | Polydor Records ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr-gyfansoddwr, canwr, actor ffilm ![]() |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, rhythm a blŵs ![]() |
Partner | Ricky Norwood ![]() |
Mae Jade Almarie Louise Ewen (ganed 24 Ionawr 1988 yn Llundain) yn gantores ac actores Seisnig. Dechreuodd Ewen ei gyrfa gyda rôl Nala yn y sioe gerdd The Lion King yn West End Llundain. Ers hynny, mae Ewen wedi gweithio ar nifer o gyfresi teledu yn y DU ac Awstralia. Yn 2005 ymunodd Ewen â'r grŵp R&B, "Trinity Stone" a gafodd ychydig o lwyddiant yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon a Rwsia. Ar y 31ain o Ionawr, 2009, dewiswyd Ewen i ganu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision a pherfformiodd yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2009 ym Moscow ar yr 16eg o Fai. Daeth y Deyrnas Unedig yn bumed, a thrwy wneud hynny, Ewen sydd wedi gwneud orau ar ran y DU yn yr Eurovision ers 2002. Yn 2009, disodlodd Ewen Keisha Buchanan yn y grŵp Sugababes.