![]() | |
Enghraifft o: | duw Hindŵaidd ![]() |
---|---|
![]() |
Duw Hindŵaidd yw Jagannatha (Sansgrit: जगन्नाथ jagannātha Orïeg: ଜଗନ୍ନାଥ), sy'n ffurf ar Vishnu-Krishna ac a addolir yn India - ar draws Bengal ac Orissa yn arbennig - ac mewn mannau eraill lle ceir cymunedau Hindŵaidd. Fe'i cysylltir yn neilltuol gyda dinas Puri, yn Orissa, lle dethlir y Jagannatha Puri yn Nheml Jagannatha, man cychwyn y Rath Yatra, gorymdaith gyda cherbyd anferth Jagannatha (tarddiad y gair juggernaut). Mae Teml Jagannath yn un o'r canolfannau mwyaf o'i math a ystyrir gan nifer o Hindwiaid fel un o'r pedair prif deml yn India. Ystyr yr enw Sansgrit jagannatha yw 'Arglwydd (nātha) y Byd' (jagat), un o enwau hynafol Krishna.