Jake Wightman | |
---|---|
Ganwyd | 11 Gorffennaf 1994 Nottingham |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Taldra | 1.82 metr |
Mam | Susan Tooby |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig, Yr Alban |
Rhedwr pellter canol o'r Alban yw Jake Wightman (ganwyd 11 Gorffennaf 1994), sy'n cystadlu'n bennaf yn y 1500 metr. Enillodd y fedal aur ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd 2022.
Cafodd Wightman ei eni yn Nottingham, Lloegr, yn fab i'r athletwr, Geoff Wightman, a'i wraig, Susan Tooby, yn rhedwyr marathon. [1][2] Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Loughborough. Mae ei dad hefyd yn hyfforddwr iddo fe.