James A. Garfield | |
---|---|
Ganwyd | James Abram Garfield 19 Tachwedd 1831 Moreland Hills |
Bu farw | 19 Medi 1881 o anaf balistig Elberon |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr, gwladweinydd, llenor, person milwrol |
Swydd | Arlywydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau, member of the State Senate of Ohio |
Taldra | 183 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Tad | Abram Garfield |
Mam | Eliza Ballou |
Priod | Lucretia Garfield |
Plant | Eliza Garfield, Harry Augustus Garfield, James Rudolph Garfield, Abram Garfield, Mary Garfield, Irvin Mcdowell Garfield, Edward Garfield |
llofnod | |
Ugeinfed Arlywydd yr Unol Daleithiau oedd James Abram Garfield (19 Tachwedd 1831 – 19 Medi 1881). Ef oedd yr ail arlywydd i gael ei lofruddio ar ôl Abraham Lincoln. Arlywyddiaeth Garfield yw'r ail-fyraf yn hanes yr U.D. ar ôl William Henry Harrison, gyda chyfanswm o 199 niwrnod. Roedd yn y swyddfa am chwe mis a phymtheg diwrnod, gweinyddodd yr Arlywydd Garfield, a Gweriniaethwr am lai na phedwar mis cyn cael ei saethu a'i anafu'n angeuol ar 2 Gorffennaf, 1881. Bu farw ar 19 Medi.[1]
Cyn iddo gael ei ethol fel arlywydd, treuliodd Garfield gyfnod fel uwchfrigadydd ym Myddin yr Unol Daleithiau ac fel aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau, ac fel aelod o Gomisiwn Etholiadol 1876. Erbyn heddiw, Garfield yw unig aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau i gael ei ethol yn Arlywydd.