James Graham, Ardalydd 1af Montrose | |
---|---|
Ganwyd | 25 Hydref 1612 Montrose |
Bu farw | 21 Mai 1650 Mercat Cross, Caeredin |
Dinasyddiaeth | Yr Alban, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor, swyddog milwrol, gwleidydd |
Swydd | Member of the Parliament of Scotland |
Tad | John Graham, 4th Earl of Montrose |
Mam | Mary Rutwenn |
Priod | Magdalene Carnegie |
Plant | John Graham, Earl of Kincardine, James Graham, 2nd Marquess of Montrose |
Llinach | Clan Graham |
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
Uchelwr a chadfridog o Albanwr oedd James Graham, Ardalydd 1af Montrose (Hydref 1612 – 21 Mai 1650).[1]
Roedd James Graham yn fab i John Graham, 4ydd Iarll Montrose ac yn bennaeth Clan Graham. Daeth yn 5ed Iarll Montrose pan fu farw ei dad yn 1626. Yn 1638, wedi i'r brenin Siarl I geisio gorfodi'r Albanwyr i ddefnyddio'r Llyfr Gweddi Anglicanaidd, bu gwrthwynebiad a arweniodd ar Ryfel yr Esgobion. Cefnogodd Montrose y gwrthwynebiad, ac arwyddodd y Cyfamod Cenedlaethol.
O 1639 ymlaen, y Cyfamodwyr oedd mewn grym yn yr Alban, ond nid oedd Montrose yn cyd-fynd a phlaid y Presbyteriaid dan Archibald Campbell, Ardalydd 1af Argyll, a dechreuodd gefnogi'r brenin. Yn ystod Rhyfel Cartref yr Alban yn 1644 a 1645, Montrose oedd prif gadfridog plaid y brenin. Cododd fyddin o Ucheldiroedd yr Alban, a chyda chymorth 2,000 o filwyr o Iwerddon dan Alasdair MacColla dechreuodd ar ymgyrch a ddangosodd ei dalent eithriadol fel cadfridog. Enillodd fuddugoliaethau, yn aml dros fyddinoedd llawer mwy na'i fyddin ei hun, ym mrwydrau Tippermuir, Inverlochy, Auldearn, Alford a Kilsyth.
Yn dilyn Brwydr Kilsyth roedd Montrose yn feistr ar yr Alban i bob golwg, ond aeth llawer o'r Ucheldirwyr adref gyda'u hysbail. Ar 12 Medi, daeth David Leslie ar draws Montrose gyda byddin fechan, a'i orchfygu ym Mrwydr Philiphaugh. Bu raid i Montrose ddianc i Norwy.
Ym Mawrth 1650 dychwelodd Montrose i'r Alban i ymladd dros Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban. Ni chafodd lawer o gefnogaeth, ac ar 27 Ebrill gorchfygwyd ef ym Mrwydr Carbisdale. Cymrewyd ef yn garcharor yn fuan wedyn, a dienyddiwyd ef yng Nghaeredin ar 21 Mai.[2]