Jean Olwen Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 1 Hydref 1942 Treboeth |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | biocemegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Fellow of the Royal Society of Biology, Cymrawd Academi'r Gwyddoniaethau Meddygol |
Biocemegydd o Dreboeth, Abertawe, yw Jean Olwen Thomas DBE FRS FMedSci MAE FLSW (ganwyd 1 Hydref 1942). Cafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd y Merched Llwyn-y-Bryn a Choleg Prifysgol Cymru Abertawe (lle enillodd BSc dosbarth cyntaf anrhydedd mewn cemeg yn 1964) a PhD yn 1967[1]. Mae hi'n Athro Emeritws mewn Biocemeg Macromoleciwlar ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (1986). Cafodd gyrfa disglair yn ymchwilio i cromatin (yng nghnewyllyn y gell) yn Adran Biocemeg Prifysgol Caergrawnt. Cyfrannodd peth o'i gwaith at lwyddiant cyfaill iddi, Roger Kornberg, ennill Gwobr Nobel mewn Cemeg yn 2006[2]. Yng Nghaergrawnt bu'n Feistr ar Goleg St Catherine's[3]. Hi oedd y ferch gyntaf i'w hethol i'r swydd. Yn 2018 fe'i hapwyntiwyd yn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe[4] (yn dilyn Rhodri Morgan).
Yn ogystal â nifer helaeth o gyfrifoldebau ac anrhydeddau rhyngwladol, anrhydeddwyd Jean Thomas gan nifer o sefydliadau Cymreig, gan cynnwys cymmrodoriaethau er anrhydedd o Brifysgolion Abertawe (1987), Caerdydd (1998) ac Aberystwyth (2009 - fel cydnabyddiaeth iddi fel gwyddonydd Cymreig[1]) a Doethuriaeth er anrhydedd gan Prifysgol Cymru yn 1992. Yn 2010 hi oedd un o Gymrodyr Cychwynnol Cymdeithas Ddysgedig Cymru[5] a hi oedd enillydd gyntaf Medal Frances Hoggan[6] y gymdeithas honno yn 2016.
Yn ôl Athro Syr John Meurig Thomas, "Mae hi'n uchel ei pharch yn y byd biocemeg."