Jean le Rond d'Alembert | |
---|---|
![]() Portread pastel o Jean le Rond d'Alembert gan Maurice Quentin de La Tour (1753) | |
Ganwyd | Jean Baptiste Louis d’Aremberg ![]() 16 Tachwedd 1717 ![]() Paris ![]() |
Bu farw | 29 Hydref 1783 ![]() Paris ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc ![]() |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | athronydd, mathemategydd, ffisegydd, cerddolegydd, cyfieithydd, llenor, damcaniaethwr cerddoriaeth, gwyddoniadurwr, peiriannydd, seryddwr, geiriadurwr, deallusyn ![]() |
Swydd | perpetual secretary of the French Academy, seat 25 of the Académie française ![]() |
Adnabyddus am | d'Alembert's paradox, d'Alembert operator, Encyclopédie, ratio test, D'Alembert's principle, D'Alembert's equation, d'Alembert's formula, Q2112228, Traité de dynamique ![]() |
Mudiad | Lumières ![]() |
Tad | Louis-Camus Destouches, Léopold Philippe d'Arenberg ![]() |
Mam | Claudine Guérin de Tencin ![]() |
Partner | Jeanne Julie Éléonore de Lespinasse ![]() |
Perthnasau | Louis-Camus Destouches ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America ![]() |
llofnod | |
![]() |
Mathemategydd, gwyddonydd, ac athronydd o Ffrainc yng nghyfnod yr Oleuedigaeth oedd Jean le Rond d'Alembert (17 Tachwedd 1717 – 29 Hydref 1783) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at fecaneg glasurol a chalcwlws integrol.[1] Yn ei Traité de dynamique (1743) fe gyflwynai datrysiad, a elwir egwyddor d'Alembert, i gymhwyso trydedd ddeddf mudiant Newton at wrthrychau sy'n symud. Darganfu d'Alembert hafaliad tonnau un-dimensiwn, math o hafaliad differol, ym 1746, a ddatblygodd ffurf gynnar ar system hafaliadau Cauchy–Riemann. Efe oedd un o'r prif gyfranwyr at yr Encyclopédie (1751): cyd-olygydd yr argraffiad cyntaf, gyda Denis Diderot, ac awdur rhyw fil o erthyglau, gan gynnwys y "Discours Préliminaire". Ei arbenigedd, wrth gwrs, oedd mathemateg a ffiseg, a chyfrannodd hefyd draethodau am gerddoriaeth ac acwsteg.
Ganed ef ym Mharis, Teyrnas Ffrainc. Cafwyd ef yn noeth ar risiau eglwys St Jean le Rond: dygwyd ef i fyny gan wraig gwydrwr, a darganfyddwyd mai mab anghyfreithlon ydoedd i'r Chevalier Destouches a Madame de Tencin, gwraig hynod am ei harabedd a'i phrydferthwch, gŵr yr hon oedd yn swyddog cyflegrol. Efe a dderbyniodd ei addysg yng Ngholeg Mazarin: ymroddodd gyda brwdfrydedd i astudio gwyddoniaeth, a derbyniwyd ef i'r Athrofa Wyddonol ym 1741. Gyda Diderot, efe a sefydlodd yr Encyclopédie enwog: ysgrifennodd y traethawd rhagarweiniol iddo, a golygodd y rhan wyddonol o'r gwaith. Yr oedd yn gyfaill i Ffredrig II, Brenin Prwsia, yr hwn yn aflwyddiannus a geisiodd ganddo ymsefydlu ym Merlin. Gwasgodd Catrin II, Ymerodres Rwsia arno i ymgymryd ag addysg ei mab, ond yn ofer. Hoffai neilltuaeth ac annibyniaeth, safai draw o gymdeithas, ac nid oedd yn gofalu dim ynghylch arian ac anrhydedd. Ysgrifennodd amryw o lyfrau pwysig ar wahanol bynciau gwyddonol a hanesiol. Bu hefyd yn un o ryddfeddylwyr amlyca'r Oleuedigaeth yn Ffrainc. Prif nodweddion ei gymeriad oedd caredigrwydd, symlrwydd, ac annibyniaeth. Fe'i etholwyd i'r Académie française ym 1754,[2] a bu farw ym Mharis yn 65 oed. Yr argraffiad gorau o'i weithiau athronyddol a llenyddol yw un a gyhoeddwyd gan Bastren ym Mharis, ym 1805, mewn deunaw o gyfrolau.