![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 574, 567 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,968.6 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.725°N 4.767°W ![]() |
Cod SYG | W04000433 ![]() |
Cod OS | SN089066 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Henry Tufnell (Llafur) |
![]() | |
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Benfro, Cymru, yw Jeffreyston.[1] Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r gogledd-orllewin o dref Dinbych y Pysgod ac i'r gogledd o'r briffordd A477. Awgryma'r fynwent gron o gwmpas yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Jeffrey, fod y safle yn gynnar iawn.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Creseli, Loveston a Yerbeston. Ar un adeg, bu mwyngloddio glo carreg yn weddol bwysig yn yr ardal. Roedd poblogaeth y gymuned yn 540 yn 2001.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[3]