Jelly Roll Morton | |
---|---|
![]() Llun gyhoeddusrwydd o Jelly Roll Morton (tua 1927). | |
Ffugenw | Jelly Roll Morton ![]() |
Ganwyd | Ferdinand Joseph LaMothe ![]() 20 Hydref 1890 ![]() New Orleans ![]() |
Bu farw | 10 Gorffennaf 1941 ![]() o asthma ![]() Los Angeles ![]() |
Label recordio | Vocalion ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Arddull | jazz ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Rock and Roll Hall of Fame ![]() |
Cyfansoddwr, pianydd, a blaenwr band Americanaidd oedd Jelly Roll Morton (Ferdinand Joseph La Menthe; 20 Hydref 1890 – 10 Gorffennaf 1941) a fu'n un o brif arloeswyr cerddoriaeth jazz. Cychwynnodd canu'r piano mewn putendai yn New Orleans yn ei ieuenctid, ac arbrofodd yn gynnar â ffurfiau newydd jazz drwy gyfuno ragtime â'r felan. Recordiodd yn gyntaf ym 1923, ac o 1926 i 1930 perfformiodd ar rai o'r recordiadau jazz cynharaf gyda'i fand, y Red Hot Peppers. Er nad oedd ei honiad o "ddyfeisio jazz" yn wir, efe oedd y cyntaf i ddefnyddio effeithiau rhagdrefnedig a lled-gerddorfaol mewn perfformiadau gan fandiau jazz.
Oddeutu 1917, symudodd i dalaith Califfornia, a pherfformiodd mewn clybiau nos nes 1922. Bu farw yn Los Angeles, Califfornia.
Ymhlith ei gyfansoddiadau o nod mae "Wolverine Blues", "Black Bottom Stomp", "King Porter Stomp", "Shoe Shiner’s Drag", a "Dead Man Blues".