Jennifer Egan | |
---|---|
Ganwyd | 7 Medi 1962 Chicago |
Man preswyl | Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, nofelydd |
Swydd | arlywydd |
Adnabyddus am | A Visit from the Goon Squad |
Priod | David Hershkovits |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Cymrodoriaeth Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer y Celfyddydau, Gwobr Pulitzer am Ffuglen |
Gwefan | http://jenniferegan.com |
Awdures Americanaidd yw Jennifer Egan (ganwyd 7 Medi 1962) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur a nofelydd.
Fe'i ganed yn Chicago ar 7 Medi 1962 ac yn 2019 roedd yn byw yn Clinton Hill, Brooklyn gyda'i gŵr a'i dau fab.[1] Cafodd ei magu yn San Francisco. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Pennsylvania (lle astudiodd llenyddiaeth Saesneg) a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt. Tra oedd yn fyfyriwr israddedig, ei phartner oedd Steve Jobs, a osododd gyfrifiadur Macintosh yn ei hystafell wely.[2][3][4][5]
Ymhlith y gwaith pwysicaf a mwyaf nodedig a ysgrifennodd mae'r nofel: A Visit from the Goon Squad a enillodd Wobr Pulitzer 2011 am Ffuglen a Gwobr Cylch Beirniaid y Llyfr Cenedlaethol am ffuglen. Ar 28 Chwefror 2018 etholwyd hi'n Llywydd Canolfan PEN America. [6][7]