Jerry Stiller | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Gerald Isaac Stiller ![]() 8 Mehefin 1927 ![]() Brooklyn ![]() |
Bu farw | 11 Mai 2020 ![]() Upper West Side ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llais, digrifwr, sgriptiwr, actor ffilm, actor teledu, cynhyrchydd ffilm, video game actor ![]() |
Priod | Anne Meara ![]() |
Plant | Amy Stiller, Ben Stiller ![]() |
Gwobr/au | Ellis Island Medal of Honor, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood ![]() |
Roedd Gerald Isaac "Jerry" Stiller (8 Mehefin 1927 – 11 Mai 2020) yn actor a digrifwr o'r Unol Daleithiau. Treuliodd nifer o flynyddoedd yn y tîm comedi Stiller a Meara gyda'i wraig Anne Meara. Stiller a Meara yw rhieni'r actor Ben Stiller (bu'n cyd-serennu â'i fab yn y ffilmiau Zoolander, Heavyweights, Hot Pursuit a The Heartbreak Kid) a'r actores Amy Stiller. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rôl Frank Costanza yn y gyfres deledu Seinfeld a'i rôl gefnogol fel Arthur Spooner ar y gyfres deledu The King of Queens.