Jess Glynne | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Jessica Hannah Glynne ![]() 20 Hydref 1989 ![]() Llundain ![]() |
Label recordio | Atlantic Records, Black Butter Records ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr caneuon ![]() |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth yr enaid, cyfoes R&B, House, pop dawns, rhythm a blŵs ![]() |
Math o lais | contralto ![]() |
Prif ddylanwad | Amy Winehouse ![]() |
Gwobr/au | Grammy Award for Best Dance/Electronic Recording ![]() |
Gwefan | https://www.jessglynne.co.uk/, http://jessglynne.co.uk ![]() |
Mae Jessica Hannah Glynne (ganwyd 20 Hydref 1989) yn ganwr a chyfansoddwr caneuon Saesneg. Ar ôl arwyddo gyda Atlantic Records cododd i amlygrwydd yn 2014 fel artist dan sylw ar y senglau "Rather Be" gan Clean Bandit ac "My Love" gan Route 94, aeth y ddau i rif un yn siartiau y DU. Cafodd ei hystyried fel un o'r "Pobl Fwyaf Dylanwadol Dan 30" gan gylchgrawn Forbes yn 2019.
Ei halbwm stiwdio gyntaf oeddI Cry When I Laugh (2015), a aeth i rif un ar Siart Albymau’r DU a cafodd lwyddiant rhyngwladol gyda'r senglau "Hold My Hand" ac "Don't Be So Hard On Yourself". Gwnaeth ail albwm stiwdio Glynne, Always In Between (2018) gyrraedd top siartiau'r DU a parhaodd ei llwyddiant gyda'r senglau "I'll Be There", "These Days", "All I Am", "Thursday" a "No One"; gwnaeth y cyntaf wneud Glynne yr artist unigol benywaidd cyntaf ym Mhrydain i gael saith sengl rhif un ar Siart Senglau'r DU.