Jessica Walter | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Jessica Ann Walter ![]() 31 Ionawr 1941 ![]() Brooklyn ![]() |
Bu farw | 24 Mawrth 2021 ![]() Manhattan ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor llais ![]() |
Adnabyddus am | Play Misty For Me ![]() |
Taldra | 173 centimetr ![]() |
Priod | Ron Leibman ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Emmy, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, Gwobr Primetime Emmy ar gyfer Prif Actores Eithriadol mewn Cyfres Bitw neu Ffilm ![]() |
llofnod | |
![]() |
Roedd Jessica Walter (31 Ionawr 1941 – 24 Mawrth 2021) yn actores Americanaidd, yn fwyaf adnabyddus am ei rôl yn y ffilm Play Misty for Me (1971), gyda Clint Eastwood.
Cafodd Walter ei geni yn Brooklyn, yn ferch i Esther (née Groisser) a David Walter; roedd David yn gerddor. Enillodd y Wobr Clarence Derwent Award ym 1963 am "Outstanding Debut Broadway Performance" yn y ddrama Photo Finish gan Peter Ustinov. Priododd â Ross Bowman ym 1968; ysgarodd ym 1978. Priododd â'r actor Ron Leibman ym 1983.[1]
Enillodd Wobr Emmy am ei rôl yn y gyfres deledu Amy Prentiss.
Bu farw yn ei chartref ym Manhattan, Efrog Newydd, yn 80 oed.[2][3][4]