Jesus Christ Superstar | |
Clawr yr albwm yn UDA | |
---|---|
Cerddoriaeth | Richard O'Brien |
Geiriau | Tim Rice |
Cynhyrchiad | 1971 Broadway 1971 Vilnius 1971 Budapest 1972 Paris 1972 West End 1972 Sydney 1975 Madrid 1977 Broadway 1984 Madrid 1992 Awstralia 1994 Prague 1996 West End Adfywiad 1998 Taith y DU 2000 Broadway Adfywiad 2001 Taith y DU 2002 Gogledd Vernon, IN 2003 Taith yr Unol Daleithiau 2004 Taith y DU 2005 Taith Yr Iseldiroedd 2006 Taith Sbaen 2007 Madrid 2007 De Corea 2007 Portiwgal 2008 Gwlad yr Iâ 2008 Sweden 2008 Anchorage, Alaska 2009 Durham, NC 2009 Dundalk, Iwerddon |
Opera roc gan Tim Rice ac Andrew Lloyd Webber ydy Jesus Christ Superstar. Mae'n adrodd brwydrau gwleidyddol a rhyngbersonol Jiwdas Iscariot a Iesu Grist. Seiliwyd yr opera ar gyfrif yr efengylau o 'r wythnos olaf o fywyd yr Iesu, gan ddechrau gyda'r Iesu a'i ddilynwyr yn cyrraedd Caersalem ac mae'n diweddu gyda'i groeshoeliad. Gwelir agweddau'r 20g ynghyd â bratiaith fodern yng ngeiriau'r caneuon, a cheir cyfeiriadau eironig at fywyd modern trwy gydol darluniad gwleidyddol y digwyddiadau.
Mae rhan helaeth o'r plot yn ffocysu ar gymeriad Jiwdas, a bortreadir fel cymeriad trychinebus sy'n ddadrithiedig o'r hyn mae ef yn tybio yw diffyg paratoi'r Iesu, a chaiff ei bryderu gan yr honiadau diweddar am sancteiddrwydd Crist.