Jim Brown | |
---|---|
Jim Brown, yn ei wisg Cleveland Browns, ar gerdyn casgladwy o 1959. | |
Ganwyd | 17 Chwefror 1936 St. Simons |
Bu farw | 18 Mai 2023 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, chwaraewr pêl-droed Americanaidd, actor ffilm, chwaraewr pêl-fasged, cyfarwyddwr teledu |
Arddull | y Gorllewin Gwyllt |
Taldra | 188 centimetr |
Pwysau | 105 cilogram |
Gwobr/au | USILA Second Team All-American, USILA First Team All-American |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Syracuse Orange football, Syracuse Orange men's basketball, Syracuse Orange men's lacrosse |
Safle | running back |
Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
Chwaraewr pêl-droed Americanaidd, actor, ac ymgyrchydd dros hawliau sifil Affricanaidd-Americanaidd oedd James Nathaniel "Jim" Brown (17 Chwefror 1936 – 18 Mai 2023). Chwaraeodd yn rhedwr i'r Cleveland Browns o 1957 i 1965, a fe'i ystyrir yn un o'r chwaraewyr goreuaf yn hanes y gêm.[1]
Ganed ef yn St. Simons, bar-ynys ar arfordir Glynn County yn nhalaith Georgia, de Unol Daleithiau America. Symudodd i fyw gyda'i fam yn Long Island, Efrog Newydd, pan oedd yn wyth oed, ac yn yr uwchysgol bu'n rhagori mewn sawl mabolgamp: pêl-fasged, pêl-fas, lacrós, rhedeg trac, a phêl-droed Americanaidd.[2] Cafodd ei dderbyn i Brifysgol Syracuse ym 1953, ac er iddo ddioddef hiliaeth fel un o'r ychydig o fyfyrwyr croenddu, ymddisgleiriodd ar y maes ac yn ei flwyddyn olaf enillodd anrhydeddau "All-American" ym mhêl-droed Americanaidd a lacrós.[3]
Derbyniwyd Brown i'r Cleveland Browns, un o dimau'r Gynghrair Bel-droed Genedlaethol (NFL), ym 1957. Safai 6'2" (1.88 m) a phwysai 232 lbs (105 kg), ac o'r cychwyn enillodd enw fel rhedwr chwim ac anorthrech a allai ennill y blaen ar wrthwynebwyr a gwrthsefyll eu ceisiau i'w daclo. Yn ei dymor cyntaf, yn Nhachwedd 1957, torrodd y record am ruthro'r nifer fwyaf o lathenni mewn un gêm (237), a chyflawnodd yr union nifer honno o lathenni eto yn Nhachwedd 1961. Yn ystod pob un o'i naw tymor fel chwaraewr proffesiynol, ac eithrio'r flwyddyn 1962, Brown oedd y prif chwaraewr yn yr holl NFL yn nhermau llathenni a ruthrwyd. Erbyn diwedd ei yrfa, sgoriodd Brown 126 o loriadau, 106 ohonynt drwy ruthro, a rhedodd 12,312 o lathenni mewn 2,359 o ymgeisiau o ruthro, gyda chyfarteledd o 5.22 llath. Cyfanswm ei ruthradau a'i dderbyniadau o basiau oedd 14,811 llath, a ni churwyd y ddwy record honno nes Walter Payton, un o'r Chicago Bears, ym 1984.[3] Cafodd ei ddethol yn Chwaraewr Gwerthfawrocaf (MVP) yr NFL teirgwaith.[4]
Yn 30 oed, ymddeolodd Brown o'i yrfa chwaraeon i fod yn actor. Perfformiodd mewn nifer o ffilmiau acsiwn ac antur, gan gynnwys y ffilm ryfel The Dirty Dozen (1967) a lluniau'r Gorllewin Gwyllt megis 100 Rifles (1969) ac El Condor (1970), ac yn y 1970au ymddangosodd mewn sawl esiampl o'r genre blaxploitation, gan gynnwys Slaughter (1972) a Three the Hard Way (1974). Yn ddiweddarach, cafodd fân-rannau mewn ffilmiau comedi, er enghraifft Mars Attacks! (1996) a She Hate Me (2004). Ymddangosodd yn fynych ar y teledu hefyd, ar sioeau sgwrs ac fel actor gwadd mewn rhaglenni heddlu ac acsiwn megis CHiPs, T. J. Hooker, a The A-Team.
Yn ystod oes y Mudiad Hawliau Sifil, Brown oedd un o'r ychydig o fabolgampwyr proffesiynol i siarad yn gyhoeddus am bwnc hil. Ym 1966 sefydlodd yr Undeb Economaidd Diwydiannol Negroaidd (yn ddiweddarach yr Undeb Economaidd Croenddu; BEU) i hyrwyddo a chefnogi busnesau a berchenogir gan bobl dduon ac i fuddsoddi mewn cymdogaethau a chymunedau'r Americanwyr Affricanaidd. Fel un o "Uwchgynhadledd Cleveland" ym Mehefin 1967, lleisiodd ei gefnogaeth i Muhammad Ali wedi iddo wrthod cael ei alw i'r fyddin. Ym 1988 sefydlodd y rhaglen Amer-I-Can i gefnogi'r ieuenctid du, yn enwedig aelodau gangiau a charcharorion, drwy ddysgu sgiliau bywyd a darparu cyngor iddynt i gadw draw o drais a thor-cyfraith. Fel rhan o'r gwaith hwn, ym 1992, llwyddodd Brown i gyflafareddu cadoediad rhwng gangiau'r Crips a'r Bloods yn Los Angeles.
Priododd Jim Brown â Sue Jones ym 1959, a chawsant dri phlentyn cyn iddynt ysgaru ym 1972. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Out of Bounds (a gyd-ysgrifennwyd â Steve Delsohn), ym 1989. Priododd am yr eildro, â Monique Gunthrop, ym 1997, a chawsant ddau blentyn. Cyhuddwyd Brown sawl gwaith yn ystod ei oes o ymosod ar ferched, gan gynnwys ymgais i lofruddio a thrais rywiol. Fodd bynnag, ni châi erioed yn euog o drosedd difrifol. Aeth i'r carchar am dri mis yn 2002 wedi iddo fandaleiddio car ei wraig a gwrthod cydymffurfio ag amodau ei brofiannaeth. Rhyddhawyd ffilm ddogfen amdano, Jim Brown: All-American (2002), a gyfarwyddwyd gan Spike Lee. Cafodd Brown ei ynydu i'r Neuadd Enwogion Pêl-droed Proffesiynol ym 1971, i Neuadd Enwogion Lacrós yr Unol Daleithiau ym 1984, ac i Neuadd Enwogion Pêl-droed Coleg ym 1995, a chodwyd cerfluniau ohonno yn ei hen brifysgol yn Syracuse, Efrog Newydd, a thu allan i stadiwm y Browns yn Cleveland, Ohio. Bu farw Jim Brown yn ei gartref yn Los Angeles, Califfornia, yn 87 oed.[2]