Jim Steinman | |
---|---|
Ffugenw | Jim Steinman |
Ganwyd | James Richard Steinman 1 Tachwedd 1947 Claremont, Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 19 Ebrill 2021 o methiant yr arennau Danbury |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, canwr, cerddor, cyfansoddwr caneuon, canwr-gyfansoddwr, cynhyrchydd recordiau, pianydd, cynhyrchydd, awdur geiriau |
Adnabyddus am | Making Love Out of Nothing at All |
Arddull | cerddoriaeth roc |
Cyfansoddwr, awdur geiriau caneuon, cynhyrchydd recordiau, a dramodydd o'r Unol Daleithiau oedd James Richard Steinman (1 Tachwedd 1947 – 19 Ebrill 2021).[1] Gweithiodd hefyd fel trefnydd, pianydd, a chanwr. Roedd ei waith yn cynnwys caneuon yn yr arddulliau roc cyfoes, dawns, pop, theatr gerdd a sgôr ffilm.
Roedd ei waith yn cynnwys albymau fel Bat Out of Hell gan Meat Loaf (sy'n un o'r albymau a werthodd mwyaf erioed) [2] a Bat Out of Hell II: Back into Hell, a chynhyrchu albymau ar gyfer Bonnie Tyler. Mae ei senglau siart mwyaf llwyddiannus yn cynnwys "Total Eclipse of the Heart" gan Tyler, "Making Love Out of Nothing at All " gan Air Supply , "I’d Do Anything for Love (But I Won't Do That) " gan Meat Loaf, " This Corrosion" a "More" gan Sisters of Mercy, "Read 'Em and Weep" gan Barry Manilow, fersiwn Celine Dion o "It's All Coming Back to Me Now" (a ryddhawyd yn wreiddiol gan brosiect Steinman, Pandora's Box). Ysgrifennodd Steinman geiriau y gân "No Matter What" gan Boyzone (y sengl cyntaf ac unig un y grŵp i fod yn boblogaidd a chyrraedd siartiau yr UDA). Rhyddhawyd unig albwm unigol Steinman Bad for Good ym 1981.
Roedd gwaith Jim Steinman hefyd yn ymestyn i theatr gerdd, lle dechreuodd ei yrfa. Cafodd Steinman gydnabyddiaeth am y llyfr, y gerddoriaeth, a'r geiriau ar gyfer Bat Out of Hell: The Musical, yn ogystal â geiriau ar gyfer Whistle Down the Wind, a cherddoriaeth i Tanz der Vampire.