Jimmy Carr | |
---|---|
Ganwyd | James Anthony Patrick Carr 15 Medi 1972 Hounslow |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | digrifwr, cyflwynydd teledu, digrifwr stand-yp, actor ffilm, digrifwr, llenor, cyflwynydd radio, sgriptiwr |
Mudiad | anffyddiaeth |
Gwobr/au | Gwobrau Comedi Prydain |
Gwefan | http://www.jimmycarr.com/ |
Comedïwr ar ei sefyll, cyflwynydd teledu ac actor o Loegr yw James Anthony Patrick "Jimmy" Carr (ganed 15 Medi 1972). Symudodd Carr i yrfa gomedi yn 2000[1][2] ac ar ôl sefydlu ei hun fel comedïwr ar ei sefyll, dechreuodd ymddangos mewn nifer o raglenni teledu Channel 4. Mae erbyn hyn yn cyflwyno y gêm banel 8 Out of 10 Cats yn ogystal â The Big Fat Quiz of the Year, gêm banel gomedi a ddarlledir ar ddiwedd mis Rhagfyr bob blwyddyn. Mae Carr hefyd wedi ymddangos yn rheolaidd fel panelydd gwadd ar raglenni comedi eraill megis Have I Got News for You, yn ogystal ag un ymddangosiad fel cyflwynydd, Never Mind the Buzzcocks, A League of their Own a QI.