Joan Plowright | |
---|---|
Ganwyd | 28 Hydref 1929 Brigg |
Bu farw | 16 Ionawr 2025 Northwood |
Man preswyl | Sussex |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu |
Tad | William Ernest Plowright |
Mam | Daisy Margaret Burton |
Priod | Roger Gage, Laurence Olivier |
Plant | Tamsin Olivier, Richard Olivier, Julie-Kate Olivier |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama, Gwobr Crystal, Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd, Gwobr Golden Globe am yr Actor Cefnogol Gorau - Cyfres, Cyfres-bitw neu Ffilm Deledu, Gwobr Theatr yr Evening Standard am yr Actores Orau, CBE |
llofnod | |
Actores o Loegr oedd Joan Ann Olivier neu Joan Plowright (28 Hydref 1929 – 16 Ionawr 2025).[1] Estynodd ei gyrfa dros 60 mlynedd yn y byd theatr, ffilm a theledu. Fe'i enwebwyd ar gyfer Oscar am ei rhan yn y ffilm Enchanted April.
Cafodd Joan Plowright ei geni yn Brigg, Swydd Lincoln, yn ferch i Daisy Margaret (née Burton) a William Ernest Plowright; roedd William yn newyddiadurwr a golygydd.[2] Mynychodd Ysgol Rhamadeg Scunthorpe.[3] ac wedyn yr Ysgol Theatr Old Vic Bryste.[4] Ym 1957, bu'n cyd-serennu gyda Syr Laurence Olivier yn y cynhyrchiad llwyfan gwreiddiol yn Llundain o The Entertainer gan John Osborne.
Priododd Olivier ym 1961, a daeth i gysylltiad agos â'i waith yn y Theatr Genedlaethol o 1963 ymlaen. Ymddeolodd o'r llwyfan yn 2014 a bu farw yn 95 mlwydd oed.