Jodie Whittaker | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mehefin 1982, 17 Mehefin 1982 Skelmanthorpe |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm |
Priod | Christian Contreras |
Actores Seisnig yw Jodie Auckland Whittaker (ganed 3 Mehefin 1982). Daeth i amlygrwydd gyntaf yn 2006 yn ei ffilm nodwedd gyntaf Venus, dan dderbyn enwebiadau Gwobr British Independent Film a Gwobr Satellite. Yn ddiweddarach fe'i ganmolwyd am ei rhannau yn y ffilm ffuglen wyddonol gwlt Attack The Block (2011), pennod "The Entire History of You" o Black Mirror (2011), ac y fam alarus Beth Latimer yng nghyfres deledu Chris Chibnall, Broadchurch (2013-2017).
Ar 16 Gorffennaf 2017, cyhoeddwyd fod Whittaker wedi ei chastio fel cymeriad y Doctor yn y gyfres deledu boblogaidd Doctor Who, y trydedd-ar-ddeg ymgnawdoliad o'r cymeriad a'r fenyw gyntaf yn y rhan. Bydd yn cymryd yr awenau ym mhennod Nadolig arbennig "The Doctors" yn Rhagfyr 2017.[1] Bydd yn cychwyn ar y gyfres ynghyd â Chris Chibnall, a fydd yn dechrau fel cynhyrchydd a phrif awdur y gyfres.