Joe Calzaghe | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mawrth 1972 Hammersmith |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | paffiwr |
Taldra | 182 centimetr |
Tad | Enzo Calzaghe |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC, WBO World Super Middleweight Champion |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Paffiwr a phencampwr y byd o Gymru yw Joseph William "Joe" Calzaghe MBE (ganwyd 23 Mawrth 1972, Hammersmith, Llundain). Mae ganddo'r llysenwau The Pride of Wales a The Italian Dragon oherwydd ei wreiddiau cymysg; cafodd ei eni yn Llundain ond mae ei dad, Enzo Calzaghe, o dras Eidalaidd a Chymraes ydy ei fam. Mae'n byw yn Nhrecelyn ger Cwmbran yn ne bwrdeistref sirol Torfaen ac mae'n cael ei hyfforddi gan ei dad.
Dechreuodd baffio yn broffesiynol yn 1993, ac enillodd pob un o'i 46 o ornestau dros yrfa a barodd bymtheg mlynedd. Yn 2006, cafodd ei enwebu gan y cylchgrawn The Ring fel un o'r 10 paffiwr gorau'r byd. Ychwanegodd yn Nhachwedd 2007 goron uwch-ganol y WBA a'r WBC at goron y WBO a oedd ganddo eisioes. Nid oes unrhyw un yn y categori uwch-ganol wedi llwyddo i fod yn bencampwr byd cyhyd. Camodd i fyny i'r adran is-drwm yn 2008.