Joel Kinnaman | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Charles Joel Nordström Kinnaman ![]() 25 Tachwedd 1979 ![]() Stockholm ![]() |
Man preswyl | Los Angeles ![]() |
Dinasyddiaeth | Sweden, Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm ![]() |
Partner | Kelly Gale ![]() |
Gwobr/au | Guldbagge Awards ![]() |
Actor o Sweden yw Charles Joel Nordström Kinnaman (ganed 25 Tachwedd 1979),[1] a adnabyddir yn broffesiynol fel Joel Kinnaman.[1] Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae'r brif rôl yn y ffim Swedaidd Easy Money,[2][3] perfformiad a enillodd Wobr Guldbagge ar gyfer yr Actor Gorau. Enillodd yr un wobr ar gyfer ei berfformiad fel Frank Wagner yn y gyfres ffilmiau Johan Falk. Serennodd yn y gyfres AMC The Killing fel y Ditectif Stephen Holder ynghyd â pherfformio mewn fersiwn newydd o RoboCop yn 2014 fel Alex Murphy.
Yn 2016, ymddangosodd Kinnaman yn y bedwaredd gyfres o'r ddrama wleidyddol Netflix House of Cards, fel y Llywodraethwr Efrog Newydd a'r Dewisddyn Gweriniaethol ar gyfer Arlywydd yr Unol Daleithiau, Will Conway. Bydd Kinnaman yn portreadu archarwr y Bydysawd Estynedig DC Rick Flag yn yr addasiad ffilm o'r Suicide Squad, a seilir ar y tîm gwrtharwyr DC Comics o'r un enw. Rhyddhawyd y ffilm yn Awst 2016.[4]