Johan Ludvig Runeberg | |
---|---|
Portread o Johan Ludvig Runeberg gan Albert Edelfelt (1893). | |
Ganwyd | 5 Chwefror 1804 Jakobstad |
Bu farw | 6 Mai 1877 Porvoo |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Adnabyddus am | The Elk Hunters |
Gwobr/au | Athro Prifysgol (teitl anrhydeddus), Marchog Urdd y Seren Pegwn, Cadlywydd Urdd y Seren Begynol, Urdd Seren y Gogledd - Cadlywydd y Groes Uwch, Marchog Urdd y Dannebrog, Urdd Sant Anna, Ail Ddosbarth |
Gwefan | http://www.runeberg.net |
llofnod | |
Bardd Ffinnaidd-Swedaidd yn yr iaith Swedeg oedd Johan Ludvig Runeberg (5 Chwefror 1804 – 6 Mai 1877) a ystyrir yn fardd cenedlaethol y Ffindir. Câi ei gerddi, caneuon, ac emynau ddylanwad pwysig ar ddeffroad cenedlaethol y Ffiniaid yn y 19g, yn ogystal â llên y Ffindir a llenyddiaeth Swedeg yn gyffredinol. Ei waith enwocaf ydy'r arwrgerdd "Fänrik Ståls sägner", sydd yn cynnwys "Vårt land" (anthem genedlaethol y Ffindir).
Ganed ef i deulu o dras Swedaidd yn Ostrobothnia, yng ngorllewin y Ffindir, ac astudiodd yn yr Academi Imperialaidd yn Turku. Dylanwadwyd arno gan dirwedd a diwylliant gwerin y Ffindir, yn ogystal â mudiad Rhamantiaeth, a dechreuodd farddoni pan yn fyfyriwr. Wedi iddo raddio, enillodd ei damaid fel athro ac academydd.
Daeth i'r amlwg yn fuan yn y 1830au trwy gyhoeddi sawl cyfrol o'i farddoniaeth a chaneuon, a thrwy sefydlu papur newydd llenyddol, yr Helsingfors Morgonblad. Cyfansoddai ar sawl ffurf, gan gynnwys y delyneg, y fugeilgerdd a'r faled, a nodweddir ei waith gan themâu Rhamantaidd a chenedlaetholgar: serch, natur, hanes, a'r werin. Ei gampwaith ydy'r arwrgerdd wladgarol '"Fänrik Ståls sägner" (1848–60) sy'n ymwneud â'r rhyfel rhwng Sweden a Rwsia dros reolaeth y Ffindir ym 1808–09. Cyfrannai'n helaeth at emyniadur newydd Eglwys Lwtheraidd Efengylaidd y Ffindir, gan ennill ei le hefyd yn llenyddiaeth grefyddol ei wlad.
Yn ogystal â'i orchestion llenyddol a'i yrfa academaidd, gwasanaethodd Runeberg yn aelod o Senedd y Ffindir. Dethlir ei ben-blwydd yn y Ffindir, ac enwir crwst traddodiadol, y Runebergstårta, ar ei ôl.