John, brenin Lloegr

John, brenin Lloegr
Ganwyd24 Rhagfyr 1166 Edit this on Wikidata
Palas Beaumont Edit this on Wikidata
Bu farw19 Hydref 1216 Edit this on Wikidata
Castell Newark Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Lloegr, dug Normandi, Arglwydd Iwerddon, cownt Angyw Edit this on Wikidata
TadHarri II, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
MamEleanor o Aquitaine Edit this on Wikidata
PriodIsabel, Iarlles Caerloyw, Isabella o Angoulême Edit this on Wikidata
PartnerAdela de Warenne, Clementina, Hawise de Tracy, Agatha de Ferrers Edit this on Wikidata
PlantHarri III, brenin Lloegr, Richard, iarll 1af Cernyw, Joan o Loegr, Brenhines yr Alban, Isabella o Loegr, Elinor, iarlles Caerlŷr, y Dywysoges Siwan, Richard Fitzroy, Oliver Fitz Regis, Osbert Gifford, Geoffrey Fitzroy, John Fitzjohn, Odo Fitzroy, Ivo, Harri, Richard o Wallingford, Matilda o Barking, Isabella La Blanche, Joan Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Angyw Edit this on Wikidata

Brenin Lloegr o 6 Ebrill 1199 tan ei farwolaeth oedd John (24 Rhagfyr 116618/19 Hydref 1216). Ganwyd yn Rhydychen, yn bumed mab (a'r ieuengaf) i Harri II, brenin Lloegr, a'i wraig Eleanor o Aquitaine.

Cafodd ei yrru gan ei dad i Iwerddon yn 1185 ond bu rhaid i Harri ei alw'n ôl am fod cwynion am ei ymddygiad yno.

Cafodd ei goroni'n frenin Lloegr yn Abaty Westminster ar 27 Mai 1199. Yn 1189 priododd ag Isabella o Gaerloyw, merch ac etifedd William Fitz Robert, Ail Iarll Caerloyw. Nid oedd iddynt blant ac fe gawsant ysgariad tua'r adeg y daeth John ar yr orsedd. Ailbriododd John ag Isabella d'Angoulême a oedd ugain mlynedd yn iau nag ef, ar 24 Awst 1200.

Gorfodwyd ef i lofnodi'r Siarter Fawr (Magna Carta) gan y barwniaid a'r eglwys ar 15 Mehefin 1215.

Priododd ei ferch Siwan â'r tywysog Llywelyn Fawr.

Bu farw yn Newark, 19 Hydref 1216.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne