John Martyn | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | John Martyn ![]() |
Ganwyd | Ian David McGeachy ![]() 11 Medi 1948 ![]() New Malden ![]() |
Bu farw | 29 Ionawr 2009 ![]() o niwmonia ![]() St. Luke's General Hospital ![]() |
Label recordio | Island Records, Independiente ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, gitarydd, canwr, artist recordio ![]() |
Arddull | canu gwerin, cerddoriaeth roc ![]() |
Priod | Beverley Martyn ![]() |
Gwobr/au | OBE ![]() |
Gwefan | http://www.johnmartyn.com/ ![]() |
Roedd John Martyn, OBE (11 Medi 1948 – 29 Ionawr 2009), a ganed yn Iain David McGeachy, yn ganwr, gitarydd a cherddor o'r Deyrnas Unedig. Dros yrfa 40-mlynedd, fe ryddhaodd 21 albwm stiwdio, gan dderbyn adnabyddiaeth feirniadol gyson. Cychwynnodd ei yrfa yn 17 mlwydd oed fel aelod allweddol o'r sin gerddoriaeth gwerin, gan dynnu ysbrydoliaeth o gerddoriaeth blues Americanaidd a cherddoriaeth Saesneg traddodiadol, a llofnodi gyda Island Records. Erbyn yr 1970au dechreuodd gynnwys dylanwadau jazz a roc i'w sain ar albymau megis Solid Air (1973) ac One World (1977), yn ogystal ag arbrofi gydag effeithiau gitâr a pheiriannau oedi tâp fel Echoplex. Cafodd gyfnod anodd gyda chamddefnyddio sylweddau a phroblemau teuluol trwy gydol yr 1970au a'r 1980au, er fe barhaodd i ryddhau albymau tra'n cydweithio ag artistiaid fel Phil Collins a Lee "Scratch" Perry. Parhaodd i weithio tan ei farwolaeth yn 2009. Disgrifiwyd gan The Times fel "gitarydd a chanwr gwefreiddiol yr oedd ei gerddoriaeth yn pylu'r ffiniau rhwng gwerin, jazz roc a'r blues".