John Meurig Thomas | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 15 Rhagfyr 1932 ![]() y Tymbl ![]() |
Bu farw | 13 Tachwedd 2020 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cemegydd, academydd, academydd ![]() |
Cyflogwr | |
Priod | Jehane Ragai ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Gwobr Corday-Morgan, Gwobr Darlithyddiaeth Faraday, Gwobr Syr George Stokes, Gwobr Willard Gibbs, Bakerian Lecture, Medal Davy, Medal Brenhinol, Cymrawd yr Academi Beirianneg Frenhinol, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Tilden Prize, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Marchog Faglor, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Longstaff Prize, Sven Berggren prize, Royal Society Bakerian Medal, honorary doctorate of Claude Bernard University Lyon 1 ![]() |
Gwyddonydd, cemegydd ac addysgwr o Gymru oedd Syr John Meurig Thomas FRS (15 Rhagfyr 1932 – 13 Tachwedd 2020)[1] sy'n adnabyddus am ei waith ymchwil ar gatalysis heterogenaidd.
Cafodd ei fagu yn Heol Bethesda, Tymbl a mynychodd Ysgol Ramadeg y Gwendraeth.
Wedi iddo dderbyn Cadair yr Adran Gemeg yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth cafodd ei wneud yn Bennaeth Adran Gemeg ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt. Wedyn dyrchafwyd ef yn Athro preswyl a chyfarwyddwr labordy'r Sefydliad Brenhinol cyn dychwelyd i Brifysgol Caergrawnt lle'r oedd yn Athro Emeritws Cemeg Cyflwr Solet.[2]
Enwyd y mwyn meurigite ar ei ôl.
Roedd hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Aelod o’r Cyngor cychwynnol.