John Osborne | |
---|---|
Ganwyd | John James Osborne 12 Rhagfyr 1929 Llundain |
Bu farw | 24 Rhagfyr 1994 Swydd Amwythig |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | actor, dramodydd, sgriptiwr, llenor, actor ffilm |
Adnabyddus am | Look Back in Anger, Inadmissible Evidence |
Priod | Mary Ure, Penelope Gilliatt, Jill Bennett |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Addasedig, PEN/Ackerley Prize |
Dramodydd, sgriptiwr ac actor Seisnig oedd John James Osborne (12 Rhagfyr 1929 – 24 Rhagfyr 1994). Ystyrir ef fel un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol ym myd y theatr ôl-ryfel.[1][2][3] Yn enedigol o Lundain, bu gweithio am gyfnod fel newyddiadurwr[4] cyn dechrau fel rheolwr llwyfan ac actor yn y theatr.[5] Bu’n byw mewn tlodi am nifer o flynyddoedd cyn i’w drydedd ddrama gael ei llwyfannu sef Look Back in Anger (1956), a ddaeth ag enwogrwydd cenedlaethol iddo.[6]
Yn seiliedig ar berthynas gyfnewidiol Osborne â'i wraig gyntaf, Pamela Lane, fe ystyrir Look Back in Anger fel y ddrama "kitchen sink realism" cyntaf.[7][8] Tyfodd mudiad a wnaeth ddefnydd o "realaeth sinc y gegin", gan ei gyplysu â realaeth gymdeithasol er mwyn trafod dadrithiad y gymdeithas Brydeinig, ym mlynyddoedd olaf yr Ymerodraeth.[9] Daeth yr ymadrodd “dynion ifanc dig” ["angry young man / men"] a fathwyd gan George Fearon i ddisgrifio Osborne wrth hyrwyddo’r ddrama, i ymgorffori’r awduron dosbarth gweithiol, asgell chwith yn bennaf o fewn y mudiad hwn. Ystyriwyd Osborne fel y ffigwr blaenllaw [10] oherwydd ei wleidyddiaeth asgell chwith, ddadleuol,[11][12] er i feirniaid nodi trywydd ceidwadol yn ei ysgrifennu cynnar.[13]
Cafodd The Entertainer (1957), Luther (1961), ac Inadmissable Evidence (1964) dderbyniad da hefyd,[14] gyda Luther yn ennill Gwobr Tony 1964 am y Ddrama Orau,[15] er bod y derbyniad i'w ddramâu diweddarach yn llai ffafriol. [16] Yn ystod y cyfnod hwn dechreuodd Osborne ysgrifennu ac actio ar gyfer y teledu[8] ac ymddangos mewn ffilmiau. Mae'n fwyaf cofiadwy fel y pennaeth troseddol Cyril Kinnear yn Get Carter (1971).[17]
Ym 1958, ymunodd Osborne â chyfarwyddwr Look Back in Anger, Tony Richardson a’r cynhyrchydd ffilm Harry Saltzman i ffurfio Woodfall Film Productions, er mwyn cynhyrchu addasiad ffilm Richardson o Look Back in Anger ym 1959 a gweithiau eraill o realaeth sinc y gegin, gan arwain y Don Brydeinig Newydd [British New Wave]. Gwelwyd addasiadau gan Osborne ei hun o The Entertainer (1960) (a gyd-ysgrifennwyd gyda Nigel Kneale ), ac Inadmissible Evidence (1968), yn ogystal â’r gomedi gyfnod Tom Jones (1963), a enillodd Wobr yr Academi am yr Addasiad Sgript Orau[18] a Gwobr BAFTA am y Sgript Orau ym Mhrydain.[19]
Bu Osborne yn briod bum gwaith, ond cafodd y pedwar cyntaf eu poenydio gan gyhuddiadau o gamdriniaeth. Ym 1978 priododd Helen Dawson, ac o 1986 buont yn byw yng nghefn gwlad Swydd Amwythig.[20] Ysgrifennodd ddwy gyfrol hunangofiannol, A Better Class of Person (1981) ac Almost a Gentleman (1991), a chyhoeddwyd gasgliad o'i waith ffeithiol, Damn You, England, ym 1994.[21] Bu farw o gymhlethdodau diabetes ar 24 Rhagfyr 1994 yn 65 oed.[22]