John T. Koch | |
---|---|
Ganwyd | 1953 |
Dinasyddiaeth | UDA Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | Celtegwr, ieithydd, hanesydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Mae John Thomas Koch[1] FLSW (ganwyd 1953) yn academydd, yn hanesydd ac yn ieithydd Americanaidd sy'n arbenigo mewn astudiaethau Celtaidd, yn enwedig cynhanes, a'r Oesoedd Canol Cynnar.[2] Ef yw golygydd y pum cyfrol Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (2006, ABC Clio). Efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus fel prif gynigydd y ddamcaniaeth Celt o'r Gorllewin.
Graddiodd o Brifysgol Harvard, lle dyfarnwyd graddau MA a PhD iddo mewn Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd yn 1983 a 1985, yn y drefn honno. Y mae hefyd wedi astudio yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth.[3] Bu'n dysgu Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Harvard a Choleg Boston.[3]
Mae wedi cyhoeddi ar nifer o bynciau yn ymwneud ag iaith a llenyddiaeth Gymreig a Gwyddeleg. Mae'n adnabyddus yn arbennig am ei lyfr ar Y Gododdin, a gyhoeddwyd yn 1997, ac am ei ddamcaniaeth fod cerrig beddau Tartessos yn cynnwys ysgrif Geltaidd o tua'r 6g CC.