John Thaw | |
---|---|
Ganwyd | John Edward Thaw ![]() 3 Ionawr 1942 ![]() Longsight ![]() |
Bu farw | 21 Chwefror 2002 ![]() Luckington ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor teledu ![]() |
Priod | Sheila Hancock, Sally Alexander ![]() |
Plant | Abigail Thaw ![]() |
Gwobr/au | CBE, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan ![]() |
Actor o Sais oedd John Edward Thaw, CBE (3 Ionawr 1942 – 21 Chwefror 2002).[1]
Ganwyd ym Manceinion, a chafodd ei dderbyn i Academi Frenhinol Celfyddyd Dramatig yn oed 17.[2] Ar deledu, ymddangosodd yn y cyfresi drama Redcap (1964–66), The Sweeney (1975–78), Inspector Morse (1987–2000), a Kavanagh QC (1995–2001), ac yn y comedi sefyllfa Home to Roost (1985–90). Yn ystod ei yrfa theatr, cafodd dro byr gyda'r Royal Shakespeare Company ym 1983 gan chwarae rhannau Syr Toby Belch a'r Cardinal Wolsey,[3] a chwaraeodd Henry Higgins yn Pygmalion ym 1984 a Joe Keller yn All My Sons ym 1985.[1] Ar y sgrin fawr, chwaraeodd y gwleidydd De Affricanaidd Jimmy Kruger yn y ffilm Cry Freedom (1987) a chwaraeodd Fred Karno, impresario y theatr gerdd, yn Chaplin (1992).
Roedd yn briod ddwywaith: i'r hanesydd Sally Alexander, ac i'r actores Sheila Hancock. Cafodd ddwy ferch, Abigail gan ei wraig gyntaf a Joanne gan ei ail wraig, a hefyd ei lysferch Melanie Jane trwy ei briodas i Sheila Hancock.[2] Bu farw John Thaw yn 60 oed o ganser yr oesoffagws.[4]