John Cale | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | John Davies Cale ![]() 9 Mawrth 1942 ![]() Garnant ![]() |
Man preswyl | Garnant, Dinas Efrog Newydd, Los Angeles, Llundain ![]() |
Label recordio | Columbia Records, Reprise Records, Island Records, Illegal Records, SPY Records, A&M Records, ZE Records, Beggars Banquet Records, Hannibal Records, EMI Records, Double Six Records, I.R.S. Records, All Saints Records ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, cynhyrchydd recordiau, actor, awdur geiriau, hunangofiannydd, model, actor ffilm, actor teledu, trefnydd cerdd, cerddoror arbrofol, pianydd, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, cyfansoddwr, cyfarwyddwr ffilm, canwr ![]() |
Blodeuodd | 1997 ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Paris 1919, Music for a New Society ![]() |
Arddull | roc arbrofol, roc amgen, roc celf, roc poblogaidd, roc gwerin, drone music, proto-punk, avant-garde music, spoken word, cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth roc ![]() |
Math o lais | bariton ![]() |
Prif ddylanwad | Antonio Vivaldi, Iannis Xenakis, Morton Feldman, Edgard Varèse, La Monte Young, Bedřich Smetana ![]() |
Mudiad | Fluxus ![]() |
Tad | William Arthur George Cale ![]() |
Mam | Margaret Davies ![]() |
Priod | Betsey Johnson, Cynthia Wells, Risé Cale ![]() |
Partner | Claudia Gould, Jane Friedman ![]() |
Plant | Eden Cale ![]() |
Gwobr/au | OBE, gradd er anrhydedd, gradd er anrhydedd, Człowiek ze Złotym Uchem, Rock and Roll Hall of Fame ![]() |
Gwefan | https://john-cale.com ![]() |
llofnod | |
Cerddor yw John Cale (ganwyd 9 Mawrth 1942). Efe a sefydlodd y band arbrofol The Velvet Underground gyda Lou Reed yn 1965. Cafodd ei eni yn y Garnant, Sir Gaerfyrddin.
Yn enwocaf am ei gerddoriaeth roc, mae Cale hefyd wedi gweithio mewn amryw o genres yn cynnwys drôn a chlasurol. Astudiodd yng Ngholeg Goldsmith, Prifysgol Llundain. Ers gadael The Velvet Underground mae Cale wedi rhyddhau dros ddwsin o recordiau hir unigol ac wedi gweithio gyda rhai o enwau mawrion y byd roc yn cynhyrchu neu’n chwarae offerynnau.
Ymhlith y rhai mae Cale wedi cydweithio â nhw yw: Lou Reed, Nico, La Monte Young, John Cage, Terry Riley, Hector Zazou, Cranes, Nick Drake, Mike Heron, Kevin Ayers, Brian Eno, Patti Smith, The Stooges, Lio, The Modern Lovers, Art Bergmann, Manic Street Preachers, James Dean Bradfield, Super Furry Animals, Catatonia, Manchild, Big Leaves, Derrero, Tystion, Fernhill, Gorky's Zygotic Mynci, Marc Almond, Element of Crime, Squeeze, Happy Mondays, LCD Soundsystem, The Replacements a Siouxsie and the Banshees.