John Gwilliam | |
---|---|
Ganwyd | 28 Chwefror 1923 ![]() Pont-y-pŵl ![]() |
Bu farw | 21 Rhagfyr 2016 ![]() Cymru ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb ![]() |
Swydd | pennaeth ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Wasps RFC, Caerloyw Rygbi, Tîm rygbi'r undeb Prifysgol Caergrawnt, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Clwb Rygbi Casnewydd ![]() |
Safle | Clo ![]() |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Cyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 23 o gapiau dros Gymru fel wythwr, 13 ohonynt fel capten, oedd John Albert Gwilliam (28 Chwefror 1923 – 22 Rhagfyr 2016).[1]
Ganed ef ym Mhontypridd ac aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt yn 1941. Ymunodd â'r lluoedd arfog fel swyddog mewn catrawd tanciau. Wedi'r rhyfel, dychwelodd i Gaergrawnt ac yna dechreuodd yrfa fel athro. Bu'n dysgu yng Ngholeg Glenalmond i Perth 1949-52, Ysgol Bromsgrove School 1952-56, a Choleg Dulwich 1956-63, cyn dod yn brifathro Ysgol Penbedw o 1963 hyd 1988. Priododd Pegi Lloyd George yn 1949 a chawsant dri mab a merch. Ymddeolodd i Lanfairfechan, Gwynedd.
Chwaraeodd rygbi i Brifysgol Caergrawnt, Caerloyw, Edinburgh Wanderers, Casnewydd, Cymry Llundain, Llanelli a Wasps. Ystyrir ei gyfnod ef fel capten Cymru yn ail "oes aur" i'r tîm cenedlaethol[angen ffynhonnell]. Enillwyd y Gamp Lawn yn 1950 a 1952.