John Jones | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Pyll ![]() |
Ganwyd | 7 Mai 1786 ![]() Trefriw ![]() |
Bedyddiwyd | 7 Mai 1786 ![]() |
Bu farw | 19 Mawrth 1865 ![]() Llanrwst ![]() |
Man preswyl | Llanrwst ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, argraffydd, llyfrwerthwr, rhwymwr llyfrau ![]() |
Plant | Evan Jones, Owen Evan Jones ![]() |
Perthnasau | Dafydd Jones ![]() |
Argraffydd, cyhoeddwr a bardd oedd John Jones (tua diwedd Ebrill neu ddechrau Mai 1786 – 29 Mawrth 1865)[1][2], a adwaenir gan amlaf fel John Jones, Llanrwst neu wrth ei enw barddol Pyll. Roedd yn ŵyr i'r argraffydd arloesol Dafydd Jones o Drefriw. Cyhoeddodd sawl llyfr a argraffwyd ganddo ar y wasg argraffu a adeiladwyd ganddo ei hunan; mae'r llyfrau unigryw hynny yn cynnwys y llyfrau Cymraeg lleiaf a argraffwyd erioed, llyfr byd natur Faunula Grustensis (1830) gan John Williams,[2] ac ef hefyd oedd rhith-adwdur a chyhoeddwr Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo.[3]