John Jones | |
---|---|
![]() John Jones (1818–1898), Bangor, Cymru, gyda'i delesgop mwyaf, adlewyrchydd 8 modfedd o drawsfesur | |
Ganwyd | 1818 ![]() Dwyran ![]() |
Bu farw | 1898 ![]() Bangor ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru ![]() |
Galwedigaeth | seryddwr, gweithiwr bôn braich ![]() |
Seryddwr ac ieithydd Cymreig oedd John Jones (1818 - 1898), a adnabyddid hefyd fel John Jones y Sêr neu Ioan Bryngwyn Bach (ei enw barddol). Roedd yn ŵr hunanaddysgedig a enillodd gryn sylw yn ei oes fel seryddwr amatur. Roedd yn frodor o blwyf Llanidan, Ynys Môn.[1]