John Keats | |
---|---|
![]() Portread o John Keats (tua 1822) gan William Hilton (1786–1839) | |
Ganwyd | 31 Hydref 1795 ![]() Moorgate, Llundain ![]() |
Bu farw | 23 Chwefror 1821 ![]() o diciâu ![]() Rhufain ![]() |
Man preswyl | Lloegr, Iwerddon, Yr Alban, Geographical region of Italy ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, barnwr-rapporteur, meddyg, llenor ![]() |
Prif ddylanwad | John Milton, Edmund Spenser, William Hazlitt, Fyrsil ![]() |
Mudiad | Rhamantiaeth ![]() |
llofnod | |
![]() |
Bardd o Sais oedd John Keats (31 Hydref 1795 – 23 Chwefror 1821). Ni chafodd fawr o glod am ei waith tra roedd yn fyw, ond erbyn y 19ed ganrif roedd ymhlith y beirdd mwyaf poblogaidd yn yr iaith Saesneg. Mae'r ddihareb Gymraeg A fynn glod, a fydd farw yn ddisgrifiad perffaith ohono. Mae ei farddoniaeth yn llawn o ddelweddau rhamantus, yn enwedig ei waith yn 1819. Deil Keats i fod yn fardd poblogaidd heddiw.