John Roose Elias | |
---|---|
Ganwyd | 9 Rhagfyr 1819 ![]() |
Bu farw | 19 Ionawr 1881 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Tad | David Elias ![]() |
Bardd a beirniad llenyddol a ysgrifennai yn Gymraeg a Saesneg oedd John Roose Elias (9 Rhagfyr 1819 – 19 Ionawr 1881), a ysgrifennai wrth yr enw barddol Y Thesbiad. Roedd yn nai i'r pregethwr enwog John Elias (1774–1841).
Brodor o Fryn-du, Ynys Môn ydoedd. Yn ddyn ifanc aeth i weithio yn siopau masnachwyr Cymreig yn ninasoedd Lerpwl a Manceinion, yng ngogledd-orllewin Lloegr. Dychwelodd i Fôn yn 1856 gan sefydlu busnes ym mhentref Pentraeth, lle bu aros am weddill ei oes.
Fel llenor cyfrannodd nifer fawr o erthyglau i gylchgronau, yn y ddwy iaith, ar lenyddiaeth, pynciau cymdeithasol a gwleidyddiaeth y cyfnod. Cafodd enw am fod yn feirniad craff.
Cyhoeddodd nifer o gerddi, yn Gymraeg a Saesneg, ond dim ond un gyfrol o'i waith, Llais o'r Ogof (1877).