John Viriamu Jones | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 2 Ionawr 1856 ![]() Pentre Poeth ![]() |
Bu farw | 1 Mehefin 1901, 1901 ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mathemategydd, ffisegydd ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol ![]() |
Gwyddonydd o Gymru oedd John Viriamu Jones (2 Ionawr 1856 - 1 Mehefin 1901). Cafodd ei eni ym Mhentre Poeth, Abertawe, yn fab i Thomas Jones, gweinidog gyda'r Annibynwyr.[1][2]
Bu ym mhrifysgolion Llundain a Rhydychen, lle lwyddodd i gael gradd dosbarth cyntaf mewn mathemateg a ffiseg. Yn 1881 fe'i gwnaed yn brifathro Coleg Frith, a newidiwyd ei enw'n ddiweddarach i Brifysgol Sheffield. Yn 1883, ac yntau'n dal yn ei ugeiniau, daeth yn brifathro Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ac yn Ganghellor cyntaf Prifysgol Cymru yn 1895.