Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Jungfrau-Aletsch protected area |
Sir | Lauterbrunnen, Fieschertal |
Gwlad | Y Swistir |
Uwch y môr | 4,158 metr |
Cyfesurynnau | 46.5369°N 7.9625°E |
Manylion | |
Amlygrwydd | 694 metr |
Rhiant gopa | Finsteraarhorn |
Cadwyn fynydd | Jungfrau-Fiescherhorn Group |
Deunydd | craig waddodol |
Mynydd 4,158 metr o uchder yn yr Alpau yw'r Jungfrau. Saif yn y Swistir, ar ben gorllewinol crib sydd hefyd yn cynnwys copaon y Mönch (4,107 m) a'r Eiger (3,970 m). Saif Grindelwald a Wengen wrth ei droed.
Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf ar 3 Awst 1811 gan Johann Rudolf Meyer, Hieronymus Meyer, Joseph Bortis ac Alois Volker. Hwn oedd y tro cyntaf i un o fynyddoedd dros 4,000 metr o uchder y Swistir gael ei ddringo.
Mae rheilffordd yr Jungfraubahn yn arwain trwy dwnel tu mewn i'r Eiger a'r Mönch i gyrraedd bwlch yr Jungfraujoch, yr orsaf reilffordd uchaf yn Ewrop. Y bwriad gwreiddiol oedd parhau'r rheilffordd hyd ar gopa'r Jungfrau, ond ni lwyddwyd i wneud hyn.
Ar 13 Rhagfyr, cyhoeddwyd yr Jungfrau a'r tiriogaethau o'i gwmpas, Jungfrau-Aletsch-Bietschhorn, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.