Justin Trudeau

Y Gwir Anrhydeddus
 Justin Trudeau
Justin Trudeau

Trudeau yn 2023


Deiliad
Cymryd y swydd
4 Tachwedd 2015
Teyrn Elisabeth II
Charles III
Rhagflaenydd Stephen Harper

Geni (1971-12-25) 25 Rhagfyr 1971 (53 oed)
Ottawa, Ontario, Canada
Plaid wleidyddol Rhyddfrydol
Priod Sophie Grégoire
Plant Xavier, Ella-Grace Margaret, ac Hadrien
Alma mater Prifysgol McGill,
Prifysgol British Columbia,
a Prifysgol Montreal
Crefydd Catholig

Trydydd Prif Weinidog ar hugain Canada ac arweinydd Plaid Ryddfrydol Canada yw Justin Pierre James Trudeau (ganwyd 25 Rhagfyr 1971). Ef yw mab hynaf y cyn-Brif Weinidog Pierre Trudeau a'r ail Brif Weinidog ieuengaf erioed yng Nghanada (wedi Joe Clark).[1][2]

Fe'i ganed yn Ottawa, yn fab i Pierre Trudeau a'i wraig Margaret (née Sinclair).[3]. Gwahanodd ei rieni yn 1977, pan oedd Justin yn bum mlwydd oed. Derbyniodd radd BAdd ym Mhrifysgol British Columbia yn 1998. Daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf yn Hydref 2000 pan ddarllenodd deyrnged i'w dad yn ei angladd.

Ar 6 Ionawr 2025, cyhoeddodd ei fwriad i ymddiswyddo fel Prif Weinidog wedi 10 mlynedd yn y swydd. Roedd wedi profi cwymp yng nghefnogaeth y cyhoedd ynghyd a dadleuon o fewn ei blaid. Felly penderfynodd bod angen dewis arweinydd newydd i'r blaid cyn bod rhaid cynnal yr etholiad nesaf rhywbryd yn 2025.[4][5]

  1. "Liberals projected to win majority". Toronto Star. 19 Hydref 2015. Cyrchwyd 19 Hydref 2015.
  2. "Justin Trudeau to be prime minister as Liberals surge to majority". CBC News. 19 Hydref 2015. Cyrchwyd 19 Hydref 2015.
  3. Griffin, Eugene (March 6, 1971). "Trudeau's Bride Takes All by Surprise". Chicago Tribune. Chicago Tribune Press Services. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mawrth 2017. Cyrchwyd 4 Medi 2016.
  4. Cecco, Leyland; Holmes, Oliver (2025-01-06). "Justin Trudeau announces plan to quit as Canada's prime minister". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-01-06.
  5. "Canada: Justin Trudeau yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad ar ôl bron i 10 mlynedd mewn grym". entrevue.fr. 6 Ionawr 2025. Cyrchwyd 8 Ionawr 2025.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne