K. M. Peyton | |
---|---|
Ganwyd | Kathleen Wendy Herald Peyton ![]() 2 Awst 1929 ![]() Birmingham ![]() |
Bu farw | 19 Rhagfyr 2023 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, awdur plant ![]() |
Priod | Mike Peyton ![]() |
Gwobr/au | MBE, Medal Carnegie, Gwobr y Guardian am waith Ffeithiol i Blant ![]() |
Gwefan | http://kmpeyton.co.uk ![]() |
Awdures ffuglen o Loegr oedd Kathleen Wendy Herald Peyton MBE (2 Awst 1929 – 19 Rhagfyr 2023), neu KM Peyton. Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei nofelau Flambards.
Cafodd Peyton ei geni yn Birmingham, Lloegr.[1] Dechreuodd ysgrifennu pan oedd hi'n naw oed. Cafodd ei magu yn Llundain.
Mynychodd hi Ysgol Gelf Kingston, ac yna Ysgol Gelf Manceinion. Gwnaeth hi gwrdd a Mike Peyton, cyn-filwr, arlunydd milwrol ac yn garcharor rhyfel. Priodasant yn 1950 [1] Roedd gan Peyton ddwy ferch: Hilary a Veronica.[1]
Roedd llawer o'i llyfrau'n ymwneud â'i hoff ddifyrrwch, megis marchogaeth. Ysbrydolwyd ei hysgrifennu cynharaf gan ei chariad at geffylau.[2]
Wedyn, ysgrifennodd straeon antur i fechgyn yn bennaf a werthodd fel cyfresi i The Scout, ac a gyhoeddwyd yn llawn yn ddiweddarach.
Helpodd ei gŵr hi yn ei hysgrifennu trwy ddyfeisio plotiau. Ysgrifennodd hi hefyd dan enwau eraill, megis Ruth Hollis a Jonathan Meredith.
Addaswyd y drioleg Flambards gan Yorkshire Television yn 1978 fel cyfres deledu.