Kamala Harris | |
---|---|
![]() Portread swyddogol, 2021 | |
49eg Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 20 Ionawr 2021 | |
Arlywydd | Joe Biden |
Rhagflaenwyd gan | Mike Pence |
Dilynwyd gan | JD Vance |
Seneddwr yr Unol Daleithiau dros California | |
Yn ei swydd 3 Ionawr 2017 – 18 Ionawr 2021 | |
Rhagflaenwyd gan | Barbara Boxer |
Dilynwyd gan | Alex Padilla |
32eg Twrnai Cyffredinol o California | |
Yn ei swydd 3 Ionawr 2011 – 3 Ionawr 2017 | |
Llywodraethwr | Jerry Brown |
Rhagflaenwyd gan | Jerry Brown |
Dilynwyd gan | Xavier Becerra |
27eg Atwrnai Dosbarth o San Francisco | |
Yn ei swydd 8 Ionawr 2004 – 3 Ionawr 2011 | |
Rhagflaenwyd gan | Terence Hallinan |
Dilynwyd gan | George Gascón |
Manylion personol | |
Ganwyd | Kamala Devi Harris 20 Hydref 1964 Oakland, California, UDA |
Plaid wleidyddol | Democratwr |
Priod | Doug Emhoff (pr. 2014) |
Llofnod | ![]() |
Twrnai, gwleidydd o'r Unol Daleithiau a 49eg Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau yw Kamala Devi Harris (ganed 20 Hydref 1964). Hi yw'r Is-Arlywydd benywaidd cyntaf yn ogystal a'r cyntaf o dras Affricanaidd a De Asia Americanaidd.
Ganed Harris yn Oakland, Califfornia, a graddiodd o Brifysgol Howard a Phrifysgol California, Coleg y Gyfraith Hastings.
Rhwng 2017 a 2021 roedd hi'n cynrychioli California fel is-seneddwr yr Unol Daleithiau. Yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd, bu gynt yn 27ain Twrnai Dosbarth San Francisco rhwng 2004 a 2011 a 32ain Twrnai Cyffredinol California rhwng 2011 a 2017. Cafodd ei ethol i'r Senedd yn etholiadau 2016 gan ddod yn yr ail fenyw Americanaidd Affricanaidd a'r gyntaf o gefndir Dde Asia Americanaidd i wasanaethu yn Senedd yr Unol Daleithiau.[1]