Karl Marx | |
---|---|
Ffugenw | Glückskind |
Ganwyd | Karl Heinrich Marx 5 Mai 1818 Trier |
Bu farw | 14 Mawrth 1883 Llundain |
Man preswyl | Llundain, Trier, Berlin, Paris, The Swan, Berlin, Berlin |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia, di-wlad, y Deyrnas Unedig |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | economegydd, newyddiadurwr, hanesydd, athronydd, cymdeithasegydd, chwyldroadwr, bardd, gwleidydd, llenor, awdur, gwyddonydd cymdeithasol, sgriptiwr ffilm, awdur teledu |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Economic and Philosophic Manuscripts of 1844, Das Kapital, The German Ideology, Y Maniffesto Comiwnyddol |
Prif ddylanwad | Georg Hegel, Max Stirner, Ludwig Feuerbach, The Essence of Christianity |
Plaid Wleidyddol | Communist League |
Tad | Heinrich Marx |
Mam | Henriette Presburg |
Priod | Jenny von Westphalen |
Plant | Eleanor Marx, Jenny Longuet, Laura Marx, Edgar Marx, Frederick Demuth, Heinrich Edward Guy Marx, Jenny Evelin Francis Marx |
Perthnasau | Ludwig von Westphalen |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA) |
llofnod | |
Athronydd gwleidyddol, economegydd, a damcaniaethwr cymdeithasol dylanwadol o dras Iddewig o'r Almaen oedd Karl Heinrich Marx (5 Mai 1818 – 14 Mawrth 1883).[1] Er iddo drafod nifer o bynciau yn ei yrfa fel newyddiadurwr ac athronydd, mae mwyaf enwog am ei ddadansoddiad o hanes yn nhermau gwrthdaro dosbarth. Crynhoir ei athroniaeth gan yr honiad bod diddordeb cyfalafwyr a gweithwyr cyflogedig yn gwbwl groes i'w gilydd. Ei weithiau mwyaf adnabyddus yw'r pamffled 1848 Manifest der Kommunistischen Partei (Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol) a Das Kapital (casgliad o bedair cyfrol; 1867–1883, sy'n dadansoddi cyfalafiaeth y 19g). Dylanwadodd Marx yn aruthrol ar hanes o ran economeg a gwleidyddiaeth. Mae ei enw wedi cael ei ddefnyddio fel ansoddair, enw, ac fel ysgol o theori gymdeithasol. Fe'i ystyrir yn destun sylfaenol Comiwnyddiaeth a Marcsiaeth. Cydweithiodd Marx ar ddarnau o'i waith gyda'r diwydiannwr Friedrich Engels, Almaenwr arall a gefnogodd Marx yn ariannol ac a helpodd olygu Das Kapital. Gydag ef ysgrifennodd Marx Y Maniffesto Comiwnyddol[2] yn 1848, un o'r llawysgrifau gwleidyddol mwyaf dylanwadol erioed.
Ar ôl darllen am gyfraith Hywel Dda a'r hawliau a roddodd i fenywod, nododd Marx am y Cymry: "Tipyn o fechgyn, y Celtiaid hyn. Ond dilechdidwyr o'u genedigaeth, gan gyfansoddi popeth mewn triadau."[3]
Ganed Marx yn Trier, yr Almaen, ac astudiodd y gyfraith ac athroniaeth ym mhrifysgolion Bonn a Berlin. Priododd y beirniad theatr o'r Almaen a'r gweithredwr gwleidyddol Jenny von Westphalen ym 1843. Oherwydd ei gyhoeddiadau gwleidyddol, daeth Marx yn ddi-wladwriaeth a bu’n byw’n alltud gyda’i wraig a’i blant yn Llundain am ddegawdau, lle parhaodd i ddatblygu ei feddwl ar y cyd â’r meddyliwr Almaenig Friedrich Engels gan gyhoeddi ei ysgrifau.
Mae damcaniaethau beirniadol Marx am gymdeithas, economeg, a gwleidyddiaeth yn cael eu hadnabod ar y cyd fel 'Marcsiaeth', sy'n dal bod cymdeithasau dynol yn datblygu trwy wrthdaro dosbarth. Yn y dull cyfalafol o gynhyrchu, mae hyn yn amlygu ei hun yn y gwrthdaro rhwng y dosbarthiadau rheoli (a elwir y <i>bourgeoisie</i>) sy'n rheoli'r dull cynhyrchu, a'r dosbarthiadau gweithiol (a elwir y proletariat) sy'n gweithredu'r dulliau hyn trwy werthu eu hamser am gyflog. Gan ddefnyddio dull beirniadol a elwir yn fateroliaeth hanesyddol, rhagwelodd Marx fod cyfalafiaeth yn cynhyrchu tensiynau mewnol fel systemau economaidd-gymdeithasol blaenorol ac y byddai'r rheini'n arwain at ei hunan-ddinistrio a'i disodli gan system newydd a elwir yn ddull cynhyrchu sosialaidd. I Marx, byddai gwrthdaro dosbarth o dan gyfalafiaeth—yn rhannol oherwydd ei ansefydlogrwydd a’i natur dueddol o argyfwng —yn peri i’r dosbarth gweithiol ddatblygu ymwybyddiaeth dosbarth, gan arwain at eu goresgyniad o rym gwleidyddol ac yn y pen draw sefydlu cymdeithas gomiwnyddol ddi-ddosbarth sef cymdeithas o gynhyrchwyr rhydd.[4] Pwysodd Marx yn frwd am ei weithredu, gan ddadlau y dylai'r dosbarth gweithiol gyflawni camau chwyldroadol proletarian trefnus i chwalu cyfalafiaeth a sicrhau rhyddfreinio economaidd-gymdeithasol.
Disgrifir Marx fel un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol yn hanes pobl, ac mae ei waith wedi cael ei ganmol a'i feirniadu. Gosododd ei waith mewn economeg y sail i rai damcaniaethau cyfredol am lafur a'i berthynas â chyfalaf.[5][6][7] Mae llawer o ddeallusion, undebau llafur, artistiaid, a phleidiau gwleidyddol ledled y byd wedi cael eu dylanwadu gan waith Marx, gyda llawer yn addasu ei syniadau. Cyfeirir at Marx yn nodweddiadol fel un o brif benseiri gwyddor gymdeithasol fodern.[8][9]
Max Weber is known as a principal architect of modern social science along with Karl Marx and Emil Durkheim.
|access-date=
requires |url=
(help)