Gwlad | Albania |
---|---|
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 19 Ionawr 1910 |
Nifer o dimau | 10 (from 2014–15) |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | First Division |
Cwpanau | Albanian Cup Albanian Supercup |
Cwpanau rhyngwladol | UEFA Champions League UEFA Europa League |
Pencampwyr Presennol | KF Partizani Tiranë (teitl 1af) (2018-19) |
Mwyaf o bencampwriaethau | Tirana (24 teitl) |
Prif sgoriwr | Vioresin Sinani (207 goals or 208 goals, acccoring to Albanian media)[1] |
Partner teledu | SuperSport Albania a Radio Televizioni Shqiptar |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
![]() |
Mae Superliga Albania (Albaneg: Kategoria Superiore) yn gynghrair broffesiynol ar gyfer clybiau pêl-droed dynion. Dyma frig system gynghrair pêl-droed Albania. Mae'r gynghrair yn cynnwys 10 clwb, ac mae'n gweithredu ar system o esgyn a disgyn gyda'r clwb isaf yn disgyn i Gynghrair Gyntaf Albania. Mae'r tymhorau'n rhedeg o fis Awst i fis Mai, gyda thimau'n chwarae 36 gêm bob un (gan chwarae pob tîm yn y gynghrair bedair gwaith, ddwywaith yn y cartref a dwywaith i ffwrdd).
Sefydlwyd y gystadleuaeth yn 1930 fel Pencampwriaeth Genedlaethol Albania yn ystod teyrnasiad y brenin Zog, yn fuan ar ôl creu Ffederasiwn Pêl-droed Albania. Ers 1930, mae 43 clwb wedi cystadlu mewn yn y gystadlaethau cydnabyddedig, ond dim ond naw clwb sydd wedi ennill y teitl: KF Tirana (24), FK Dinamo Tirana (18), FK Partizani Tirana (15), KF Vllaznia Shkodër (9), KF Skënderbeu Korçë (6), KF Elbasani (2), Flamurtari Vlorë (1), KF Teuta Durrës (1) a FK Kukësi (1). Y pencampwyr presennol yw FK Kukësi, a enillodd eu teitl cyntaf yn 2016-17.